Revelation of John 5

Y sgrôl a'r Oen

1Yna gwelais fod sgrôl yn llaw dde yr Un oedd yn eistedd ar yr orsedd. Roedd ysgrifen ar ddwy ochr y sgrôl ac roedd wedi ei selio â saith sêl. 2Wedyn gwelais angel pwerus yn cyhoeddi'n uchel, “Pwy sy'n deilwng i dorri'r seliau ar y sgrôl a'i hagor?” 3Ond doedd neb yn y nefoedd na'r ddaear na than y ddaear yn gallu agor y sgrôl i'w darllen. 4Dyma fi'n dechrau beichio crïo am fod neb yn deilwng i agor y sgrôl a'i darllen. 5Ond dyma un o'r arweinyddion ysbrydol yn dweud wrtho i, “Stopia grïo! Edrych! Mae'r Llew o lwyth Jwda,
5:5 ‛Llew o lwyth Jwda‛: Yn Genesis 49:9 mae Jwda yn cael ei alw yn llew ifanc. Roedd y Brenin Dafydd yn dod o lwyth Jwda.
disgynnydd y Brenin Dafydd,
5:5 disgynnydd y Brenin Dafydd: Mae'r Groeg yn dweud “gwreiddyn Dafydd” sydd yn un o deitlau y Meseia – gw. Eseia 11:1,10.
wedi ennill y frwydr. Mae e'n gallu torri'r saith sêl ac agor y sgrôl.”

6Yna gwelais Oen oedd yn edrych fel petai wedi ei ladd. Roedd yn sefyll rhwng yr orsedd a'r pedwar creadur byw a'r arweinwyr ysbrydol oedd o'i chwmpas hi. Roedd ganddo saith corn a saith llygad (yn cynrychioli Ysbryd cyflawn perffaith Duw sydd wedi ei anfon allan drwy'r byd i gyd). 7Aeth i gymryd y sgrôl o law dde yr Un oedd yn eistedd ar yr orsedd. 8Ac wrth iddo gymryd y sgrôl, dyma'r pedwar creadur byw a'r dau ddeg pedwar arweinydd ysbrydol yn syrthio i lawr ar eu hwynebau o flaen yr Oen. Roedd telyn gan bob un ohonyn nhw, ac roedden nhw'n dal powlenni aur yn llawn o arogldarth (sy'n cynrychioli gweddïau pobl Dduw). 9Roedden nhw'n canu cân newydd:

“Rwyt ti'n deilwng i gymryd y sgrôl
ac i dorri y seliau,
am dy fod ti wedi cael dy ladd yn aberth,
ac wedi prynu pobl i Dduw â'th waed –
pobl o bob llwyth ac iaith,
hil a chenedl.
10Rwyt wedi teyrnasu drostyn nhw
a'u gwneud yn offeiriaid i wasanaethu ein Duw.
Byddan nhw'n teyrnasu ar y ddaear.”

11Yna yn y weledigaeth, clywais sŵn tyrfa enfawr o angylion – miloedd ar filoedd ohonyn nhw! … miliynau! Roedden nhw'n sefyll yn gylch o gwmpas yr orsedd a'r creaduriaid byw a'r arweinwyr ysbrydol, 12ac yn canu'n uchel:

“Mae'r Oen gafodd ei ladd yn deilwng
i dderbyn grym a chyfoeth,
doethineb a nerth,
anrhydedd, ysblander a mawl!”

13Yna clywais bopeth byw yn y nefoedd ac ar y ddaear, tan y ddaear ac ar y môr – y cwbl i gyd – yn canu:

“Clod ac anrhydedd, gogoniant a nerth
am byth bythoedd,
i'r Un sy'n eistedd ar yr orsedd,
ac i'r Oen!”

14“Amen!” meddai'r pedwar creadur byw, a dyma'r arweinwyr ysbrydol yn syrthio i lawr ar eu hwynebau i addoli.

Copyright information for CYM